iMindMap - Meddalwedd Mind Mapping
Mae iMindMap® yn teclyn creadigol a hawdd i'w ddefnyddio sy'n gallu'ch helpu i gynllunio, creu, datrys problem, dysgu, mapio meddwl, trefnu a chyflwyno'ch syniadau. Dyma'r unig gynnyrch a gefnogir yn swyddogol gan Tony Buzan, y dyfeisiwr o Mind Mapping, y broses feddwl weledol a ddefnyddir gan dros 250 miliwn o bobl fyd-eang.
Sut mae iMindMap® yn gweithio
Wrth ddatblygu'ch sgiliau creadigol dydych chi ddim yn unig yn gwella'ch gallu i gynhyrchu syniadau dyfeisgar, rydych chi hefyd yn hyrwyddo'ch cof. Mae hyn oherwydd fod creadigrwydd a chof yn ddwy broses feddyliol a ryng-gysylltir. Maen nhw'n gweithio orau pan ydych chi'n defnyddio'ch galluoedd dychmygu ac uniaethu gyda'i gilydd.
Gwahenir yr ymennydd yn ddwy hemisffer: hemisffer y chwith ac hemisffer y dde. Mae'r ddwy hemisffer yn meddu ar gyneddfau meddyliol gwahanol. Er enghraifft, mae hemisffer y chwith yn datblygu sgiliau geiriol, mathemategol a dadansoddol tra ddefnyddir hemisffer y dde ar gyfer arlunio, cerddoriaeth, ymwybyddiaeth ofodol a dychymyg. Mae'r ddwy hemisffer yn systemau cwbl gwahanol a ddefnyddir gyda'i gilydd yn anaml. Mae Mind Mapping, sut bynnag, yn ymwneud ag agweddau o ddwy hemisffer yr ymennydd. Trwy eu defnyddio gyda'i gilydd, mae dwy ochr yr ymennydd yn atgyfnerthu'r llall ar yr un pryd, gan ddarparu creadigrwydd diddiwedd a chynyddu nifer yr uniadau arwyddocaol, sydd yn ei dro'n arwain at allu deallusol mwy.
iMindMap® - Y Feddalwedd Swyddogol
Mind Mapping oddi wrth Tony Buzan
Gellir gosod y feddalwedd iMindMap oddi wrth Tony Buzan (H) i bob agwedd o fywyd dyddiol ac i'ch darparu gyda datrysiad sy'n addas i'ch anghenion rydyn ni'n cynnig iMindMap mewn tri chynhyrchiad cyffrous:
iMindMap Elements, Professional and Ultimate. Mae'r fersiwn Ultimate nawr ar gael gydag opsiwn bwndelaid adnoddau ychwanegol (Plus Pack).
iMindMap® Elements - Mae iMindMap® Elements yn cynnig profiad gwir organig sy'n ddelfrydol ar gyfer eich anghenion sylfaenol Mind Mapping.
iMindMap® Professional - Mae iMindMap® Professional yn cynnig integreiddio llyfn gyda Microsoft Office, OpenOffice.org a iWork, ac hefyd yn cynnig y cyfle i allforio'ch Mind Maps mewn amrywiaeth o ffurfiadau gwahanol.
iMindMap® Ultimate - iMindMap Ultimate® ydy'r teclyn TERFYNOL Mind Mapping sy'n cynnig y pecyn cyflawn o nodweddion ichi, gan gynnwys nodiadau clywedol, System Rheoli Cywaith wedi'i integreiddio'n llawn a Modd Cyflwyno.
iMindMap® Ultimate PLUS (Lot) - Mae Pecyn iMindMap Ultimate® PLUS yn cynnwys iMindMap Ultimate, hefyd casgliad nodedig o adnoddau ychwanegol i'ch helpu i ddeall y broses o mind mapping, ei hanes, pam mae'n gweithio, ac yn bwysicach oll, sut y gallwch ei defnyddio.
Defnyddiwch y botwm isod i lawrlwytho fersiwn arbrofi rhad o'r feddalwedd. Mae ein prif wefan yn Saesneg, ond mae'r feddalwedd ar gael hefyd yn yr ieithoedd canlynol:
Tseineeg (Seml neu Draddodiadol)
Is Almaeneg
Ffrangeg
Almaeneg
Eidaleg
Pwyleg
Rwsieg
Sbaeneg
Thaieg
Cymraeg
Saesneg
Nodwch os gwelwch yn dda fod cynnwys ein prif wefan yn Saesneg. Ysgrifennir hefyd unrhyw ohebiaeth yn Saesneg.


